Cynulliad Cenedlaethol Cymru / National Assembly for Wales
Y Pwyllgor Busnes / Business Committee
Etifeddiaeth y Pedwerydd Cynulliad / Fourth Assembly Legacy
Tystiolaeth gan Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol / Evidence from the Health and Social Care Committee
24 Tachwedd 2015
Annwyl Lywydd,
Diolch i chi am ddod â gwaith y Pwyllgor Busnes ar ei adroddiad etifeddiaeth i sylw’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (‘y Pwyllgor’).
Yn anffodus, o ganlyniad i lwyth gwaith deddfwriaethol y Pwyllgor ar hyn o bryd, ni fu’n bosibl i’r Aelodau roi ystyriaeth fanwl i’r cwestiynau yr ydych yn ymgynghori yn eu cylch. Serch hynny, efallai y byddwch am wybod bod y Pwyllgor wedi cynnal ymgynghoriad ar ei etifeddiaeth y Pedwerydd Cynulliad rhwng 30 Gorffennaf a 30 Hydref, 2015. Daeth cyfanswm o 15 o gyflwyniadau i law’r Pwyllgor ac mae’r rhain wedi cael eu cyhoeddi ar ein gwefan, a gallwch fod am eu hystyried fel rhan o’ch gwaith.
Mae’r Pwyllgor yn bwriadu ymgymryd â rhagor o waith ar ei etifeddiaeth y Pedwerydd Cynulliad yn ystod tymor y Gwanwyn 2016. Fel rhan o’r gwaith hwn, mae’r Pwyllgor yn bwriadu ystyried effeithiolrwydd ei ddulliau craffu deddfwriaethol, craffu ar bolisi a chraffu ariannol, ac i ba raddau y mae wedi llwyddo i sicrhau cydbwysedd rhwng y swyddogaethau hyn. Bydd hefyd yn ystyried yr amserlenni y mae wedi cael cais i weithio iddynt, gan gynnwys amseriad cyfarfodydd a’r amserlenni a bennwyd iddo i graffu ar ddeddfwriaeth (gan gynnwys Biliau, cynigion cydsyniad deddfwriaethol ac is-ddeddfwriaeth).
Er fy mod yn deall na fydd y gwaith hwn yn cael ei gwblhau mewn pryd i lywio eich adolygiad, byddaf yn sicrhau bod casgliadau’r Pwyllgor yn cael eu dosbarthu i chi pan fyddant ar gael. Rwy’n gobeithio y bydd y gwaith hwn yn gyfraniad defnyddiol at yr ystyriaeth y bydd Pwyllgor Busnes y Pumed Cynulliad yn ei roi i strwythur a swyddogaethau pwyllgorau yn y dyfodol ar ddechrau’r Cynulliad nesaf.
Yn gywir
David Rees AC
Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol